Black History Talk: Life and Work of Community Champions

Gaynor was born and raised in Butetown, Cardiff and has always been passionate about the area she grew up in and is very proud of her roots in Tiger Bay.

Gaynor was born and raised in Butetown, Cardiff and has always been passionate about the area she grew up in and is very proud of her roots in Tiger Bay. She’s worked as a local Cardiff councillor, on the board of Diverse Excellence Cymru, BAWSO and as Director of the Butetown History and Arts Centre. She has since been awarded a Lifetime Achievement by the Ethnic Minority Welsh Women Achievement Association.

 

In 2020, the First Minister of Wales appointed her to lead a task and finish group to audit all public statues, buildings and street names in Wales associated with the Atlantic Slave Trade. The audit report, The Slave Trade and the British Empire: an audit of commemoration in Wales, was published in November 2020.

Gaynor is currently the chair of The Heritage & Cultural Exchange [HCE] a community-based organisation that aims to fully chronicle the heritage together with the cultural diversity of Tiger Bay and Cardiff Docklands and bring it to the World.

Humie Webbe, Equality, Diversity and Inclusion Consultant.

Humie was born in Cardiff and is one of eight children of Caribbean heritage parents who emigrated from St Kitts to Wales in the 1950s, known as the Windrush Generation.

Humie is an Equality and Diversity campaigner, helping local BAME communities. She has spent nearly 30 years working in the public and community sector and is a founding member of Black History Month Wales. In 2018 she was named in the Western Mail list of top 100 brilliant African Caribbean and African Welsh people who have helped shape Wales. In 2021, she featured in ‘Seventy Years of Struggle and Achievement’ publication by EMWAA as one of the inspiring recipients of the award for Social and Humanitarian work.

This session will be delivered in English. If you would like to access the event in Welsh, please notify us in advance of the event.

By registering for this event you confirm you are happy for us to send you communications relating to this event only via email. Your email address will not be shared or used for any other purpose.

For more information, please email libraryevents@cardiff.gov.uk

Date and time: Thu, 17 November 2022, 17:30 – 19:00 GMT

Location: Cardiff Central Library Hub The Hayes Cardiff CF10 1FL

Gaynor Legall, Y Cynghorydd sy’n Ferch BME Cyntaf yng Nghymru

Cafodd Gaynor ei geni a’i magu yn Butetown, Caerdydd. Mae’r ardal hon wastad wedi bod yn agos at ei chalon ac mae’n falch iawn o’i gwreiddiau ym Mhorth Teigr. Mae hi wedi gweithio fel cynghorydd lleol Cyngor Caerdydd, ar fwrdd Rhagoriaeth Diverse Cymru, BAWSO ac fel Cyfarwyddwr Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown. Ers hynny mae wedi derbyn Gwobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig.Yn 2020, cafodd ei phenodi gan Brif Weinidog Cymru i arwain grŵp gorchwyl a gorffen i archwilio pob cerflun cyhoeddus, adeilad ac enwau strydoedd yng Nghymru sy’n gysylltiedig â Masnach Caethweision yr Iwerydd. Cafodd adroddiad yr archwiliad, Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: archwiliad o goffau yng Nghymru, ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2020.

Gaynor yw cadeirydd y Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant ar hyn o bryd, sef sefydliad cymunedol sy’n ceisio cofnodi treftadaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol Porth Teigr a Dociau Caerdydd yn llawn a dod â nhw i’r Byd.

Humie Webbe, Ymgynghorydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ganed Humie yng Nghaerdydd ac mae’n un o wyth o blant rhieni o dras Garibïaidd a ymfudodd o St Kitts i Gymru yn y 1950au, sef Cenhedlaeth Windrush.

Mae Humie yn ymgyrchydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, sy’n helpu cymunedau BAME lleol. Mae wedi treulio bron i 30 mlynedd yn gweithio yn y sector cyhoeddus a chymunedol ac mae’n un o sylfaenwyr Mis Hanes Pobl Dduon Cymru. Yn 2018 cafodd ei henwi ar restr y Western Mail o’r 100 o Gymry Caribïaidd ac Affricanaidd disglair sydd wedi helpu i siapio Cymru. Yn 2021, bu’n rhan o gyhoeddiad ‘Seventy Years of Struggle and Achievement’ gan EMWAA fel un o dderbynwyr ysbrydoledig y wobr am waith Cymdeithasol a Dyngarol.

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech weld y digwyddiad yn Gymraeg, rhowch wybod i ni cyn y digwyddiad.

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, yr ydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni anfon gohebiaeth atoch mewn perthynas â’r digwyddiad hwn yn unig drwy e-bost. Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.